Adam Matthews
Mae Adam Matthews wedi cyfaddef ei fod wedi gorfod gadael Celtic er mwyn gwella’i siawns o gael ei ddewis yn nhîm Cymru.
Wythnos yma fe gyhoeddodd Sunderland eu bod wedi arwyddo’r amddiffynnwr am £2m, gyda Matthews yn gadael Glasgow ar ôl pedair blynedd yn ôl.
Bydd y cefnwr dde nawr yn cael cyfle i brofi ei hun yn Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf, wedi iddo symud o Gaerdydd i Uwch Gynghrair yr Alban yn 2011.
Roedd Matthews yng ngharfan ddiwethaf Cymru ond mae wedi canfod ei hun yn drydydd dewis fel cefnwr dde yn ddiweddar y tu ôl i Chris Gunter a Jazz Richards.
Llygadu Ewro 2016?
Llynedd fe symudodd Cymro arall, Joe Ledley, o Celtic i Uwch Gynghrair Lloegr gan ymuno â Crystal Palace.
Ers hynny mae’r chwaraewr canol cae wedi sefydlu’i hun yn nhîm Cymru ac mae Matthews, sydd yn 23 oed bellach, yn gobeithio gwneud yr un math o argraff.
Gyda Chymru hefyd yn edrych yn debygol o gyrraedd pencampwriaeth Ewro 2016 y flwyddyn nesaf, mae cymhelliad ychwanegol gan y chwaraewyr i berfformio i safon uchel y tymor nesaf.
“Roedd y sefyllfa ryngwladol [gyda Chymru] yn rhan fawr o’r ffaith mod i wedi symud,” meddai Matthews.
“Dyw’r gynghrair yn yr Alban ddim yn wych ac fe welodd rheolwr Cymru [Chris Coleman] hynny. Gobeithio bydd hyn yn gwella fy siawns i o gael i mewn i dîm Cymru.”
‘Angen gwella’
Mynnodd Adam Matthews fodd bynnag ei fod wedi mwynhau ei gyfnod gyda Celtic, ble mae wedi chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr sawl gwaith.
Ond mae’n awyddus nawr i brofi ei hun yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac mae ei reolwr newydd yn Sunderland Dick Advocaat eisoes wedi dweud bod rhannau o’i gêm angen gwella.
“Fe ddywedodd e ‘Rydyn ni wedi bod yn dy wylio di ers sbel a dw i’n hoffi beth dw i wedi’i weld ond mae’n rhaid i ti weithio ar rai pethau a gobeithio galla’i dy wneud di’n chwaraewr gwell’,” meddai Matthews wrth siarad am sgwrs a gafodd gyda’i reolwr newydd.
“Rwy’n siŵr y bydd e’n medru gwneud hynny a gyda’r chwaraewyr sydd yn y clwb alla’i ddim ond gwella. Dw i’n hoffi ymosod ond mae’r rheolwr eisoes wedi dweud wrtha’ i fod rhaid i mi weithio ar fy amddiffyn felly fe wnâi fy ngorau i wneud hynny.”