Bowlwyr Awstralia gafodd y gorau o’r sesiwn gyntaf ar y Swalec SSE, wrth iddyn nhw gipio tair o wicedi Lloegr ar fore cynta’r prawf cyntaf yng Nghaerdydd.

Roedd oedi o chwarter awr ar ddechrau’r bore oherwydd y glaw, ond wnaeth hynny ddim atal y dorf rhag cael eu diddanu gan Only Men Aloud cyn i’r chwaraewyr fentro i gae’r Swalec SSE.

Naw munud yn unig gymerodd hi i Awstralia gipio’r wiced gyntaf yng Nghyfres y Lludw yn y Swalec SSE. Gwyrodd pêl gan Josh Hazlewood yn ôl i mewn i’r agorwr Adam Lyth, a hwnnw’n darganfod dwylo diogel David Warner yn y slip, a Lloegr yn llithro i 7-1 o fewn dwy belawd.

Bowliodd Mitchell Starc ddwy belawd ddi-sgôr ar ddechrau’r bore cyn i’r Mitchell arall – Johnson – ei ddisodli o ben Heol y Gadeirlan.

Daeth partneriaeth addawol rhwng Garry Ballance ac Alastair Cook i ben ar 42-2, wrth i’r troellwr Nathan Lyon ddarganfod ymyl bat capten Lloegr o ben Afon Taf wedi cyfnod ansicr i’r batwyr.

Un rhediad gafodd ei ychwanegu cyn i Mitchell Starc gipio trydydd wiced Awstralia, wrth ddarganfod coes Ian Bell o flaen y wiced. Roedd amheuaeth fod y bêl wedi gwyro i lawr ochr y goes, ond aeth bys y dyfarnwr Marais Erasmus i fyny ar unwaith, a phenderfynodd Lloegr beidio apelio’r penderfyniad.

Yn fuan wedi i Joe Root ymuno â Ballance wrth y llain, cyrhaeddodd Lloegr gyfanswm o hanner cant oddi ar gant o belenni.

Roedd Ballance (28 heb fod allan) a Root (33 heb fod allan) wedi ychwanegu 45 at gyfanswm Lloegr wrth iddyn nhw gyrraedd 88-3 erbyn amser cinio.