Gareth Bale
Mae disgwyl i dîm pêl-droed Cymru gyrraedd deg uchaf y byd am y tro cyntaf erioed pan fydd rhestr detholion diweddaraf FIFA yn cael ei chyhoeddi’r wythnos hon.
Roedd tîm Chris Coleman, sydd yn 22ain ar hyn o bryd, eisoes wedi sicrhau y buasen nhw’n neidio’n sylweddol yn y detholion ar ôl trechu Gwlad Belg o 1-0 mewn gêm ragbrofol Ewro 2016 fis diwethaf.
Fe fyddan nhw nawr uwch ben timau sydd yn gewri ar y llwyfan rhyngwladol ac wedi ennill Cwpan y Byd yn y gorffennol gan gynnwys Sbaen, Ffrainc a’r Eidal.
Ac mae’r naid anhygoel hefyd yn golygu y bydd Cymru ymysg y prif ddetholion pan fydd grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn cael ei dewis ymhen tair wythnos.
Ffafr gan yr Ariannin
Mae Cymru i’w gweld wedi sicrhau’r degfed safle yn y rhestr ddiweddaraf, a hynny ar ôl i Chile fethu â churo’r Ariannin mewn 90 munud yn ffeinal y Copa America nos Sadwrn.
Fe enillodd Chile ar giciau o’r smotyn yn y diwedd, ond petai nhw wedi ennill y gêm yn yr amser arferol fe fyddan nhw wedi neidio uwchben Cymru i’r degfed safle.
Gan nad oes rhagor o gemau mawr i’w chwarae cyn i FIFA gyhoeddi’r detholion diweddaraf, dyma’r rhai mae disgwyl iddyn nhw fod yn y deg uchaf: Ariannin, Yr Almaen, Gwlad Belg, Colombia, Yr Iseldiroedd, Brasil, Portiwgal, Rwmania, Lloegr, Cymru.
Ac mae’n cwblhau siwrne anhygoel i dîm pêl-droed Cymru, oedd yn 117eg yn y byd dim ond pedair blynedd yn ôl ac yn is na gwledydd fel Haiti, Guyana ac Ynysoedd y Ffaro.
Grwpiau Cwpan y Byd
Bonws arall i dîm Cymru yw bod grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn cael eu dewis ymhen ychydig wythnosau, gyda’r detholion yn seiliedig ar restr FIFA.
Mae naid y tîm i uchelfannau’r rhestr honno, union cyn dewis y grwpiau, yn golygu y byddan nhw ymysg prif ddetholion Pot Un.
Bydd hynny’n golygu nad oes modd iddyn nhw fod yn yr un grŵp a rhai o dimau mwyaf Ewrop fel Yr Almaen, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Portiwgal, Rwmania, Lloegr, Sbaen a Croatia.
Fe ddylai hynny olygu, mwyaf tebyg, y bydd ganddyn nhw grŵp haws nag yn y gorffennol wrth iddyn nhw frwydro i geisio cyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia ymhen tair blynedd.
Fe fydd y gemau rhagbrofol hynny’n dechrau ym mis Medi 2016, ar ôl twrnament Ewro 2016 yn Ffrainc haf 2016 y mae gan Gymru siawns dda bellach o’i chyrraedd.