Mae James King a Nicky Smith wedi arwyddo cytundebau newydd hir dymor gyda rhanbarth y Gweilch.
Bydd cytundeb King, sydd yn 24 oed, yn para nes 2018 tra bod cytundeb y prop Nicky Smith, 21, yn rhedeg nes 2019.
Mae’r rhanbarth eisoes wedi arwyddo Paul James, Gareth Delve, Brendon Leonard a Kristian Phillips ar gyfer y tymor nesaf yn ogystal â sicrhau nifer o’u chwaraewyr presennol ar gytundebau newydd.
Mae Alun Wyn Jones, Dan Biggar a Rhys Webb i gyd hefyd wedi arwyddo cytundebau canolog gydag Undeb Rygbi Cymru sydd yn eu caniatáu nhw i barhau i chwarae dros y Gweilch.
‘Dyma fy nghartref’
Mae gan James King tri chap dros Gymru, a Nicky Smith gyda dwy, ac mae’r ddau ohonyn nhw yng ngharfan hyfforddi Cymru ar hyn o bryd ar gyfer Cwpan y Byd eleni.
“Rydw i wedi bod yma ers saith mlynedd nawr, ers mod i’n 18, felly’r rhanbarth yma yw fy nghartref,” meddai James King, sydd yn chwarae yn yr ail reng neu’r rheng ôl ac wedi cynrychioli’r Gweilch dros 100 o weithiau yn barod.
“Mae cystadleuaeth gref am lefydd yn nhîm y Gweilch, yn enwedig yn y safleoedd dw i’n chwarae, felly rydw i’n ystyried fy hun yn ffodus i fod wedi chwarae cymaint o gemau dros y tymhorau diwethaf.”
Ar ôl ei dymor llawn cyntaf yn y tîm, dywedodd Nicky Smith ei fod yn awyddus i gyflawni mwy eleni.
“Mae gen i dal lot o waith caled i’w wneud gan mod i’n sylwi nad ydw i wir wedi cyflawni unrhyw beth eto, dw i dal yn ifanc iawn ac yn dysgu’r gêm,” meddai’r prop.
“Os allai aros yn ffit, parhau i weithio’n galed a gwella, gobeithio ga’i fwy o amser ar y cae a sefydlu fy hunan yn nhîm y Gweilch.”