Roedd ’na siom i’r gyrrwr Osian Pryce o Fachynlleth wedi iddo ddod yn ail ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd yng Ngwlad Pwyl ar ôl colli o drwch blewyn.
Serch hynny, mae Pryce, 22, yn cyfaddef bod y tridiau diwethaf wedi bod ymhlith y gorau yn ystod ei yrfa.
“Ydy, mae’n siomedig na wnaethon ni ennill ond rwy’n gobeithio bod pobl wedi cymryd sylw o’r hyn rydyn ni wedi’i wneud. Rydyn ni wedi gosod mwy o’r amseroedd cyflymaf nag unrhyw un, ac oni bai am y problemau gawson ni, fe fyddwn ni wedi bod ar y blaen yn y ffeinal heddiw.
“Ond ni ddigwyddodd hynny. Fe ddaethon ni’n ail sy’n ganlyniad arbennig o dda i fi,” meddai.
Roedd yn llawn canmoliaeth hefyd am y ffyrdd yng Ngwlad Pwyl gan ddweud eu bod yn “anhygoel”.
Mae Osian Pryce nawr yn wynebu’r dasg o geisio cael arian er mwyn gallu cystadlu yn rownd nesaf y bencampwriaeth yn y Ffindir rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst. Ond dywedodd ei fod yn “fwy penderfynol nag erioed” i sicrhau ei le yno.