Mae Morgannwg wedi curo Swydd Hampshire o 23 o rediadau yn y T20 Blast ar gae’r Ageas Bowl yn Southampton.

Tarodd y capten Jacques Rudolph 77, ac fe gafodd ei gefnogi gan y chwaraewr amryddawn Craig Meschede (35*) wrth i Forgannwg gyrraedd 181-7 ar ddiwedd eu hugain pelawd.

Cipiodd troellwyr Swydd Hampshire, Gareth Berg 3-34 a Danny Briggs 2-13.

Wrth ymateb i’r her o gwrso 182 am y fuddugoliaeth, doedd 70 gan agorwr Swydd Hampshire, Michael Carberry ddim yn ddigon wrth i’r Saeson lwyddo i gyrraedd 158-6 yn unig.

Noson i droellwyr Morgannwg oedd hi wrth i Rudolph (2-8) a Dean Cosker (2-30) gipio dwy wiced yr un, ac fe gipiodd Andrew Salter wiced hefyd. Aeth y chweched wiced i’r bowliwr lled-gyflym o’r Alban, Ruaidhri Smith.

Ar ddiwedd yr ornest, roedd Cosker yn hapus gyda’i berfformiad e a’r troellwyr eraill.

“Roedden ni’n gwybod y byddai’n rhaid i ni gael pedwar troellwr yn bowlio, ac mae’n anodd gwneud hynny yn y cyfnod clatsio ond fe wnaethon ni fanteisio ar ein cyfleoedd.”

Dywedodd Jacques Rudolph wrth BBC Radio Wales: “Ry’n ni mewn sefyllfa lle’r oedden ni â’n cefnau yn erbyn y wal. Gobeithio y gallwn ni barhau i berfformio yn y gemau nesaf.

“Gobeithio y gallwn ni gael tair wythnos dda oddi cartref.”

Ychwanegodd y bowliwr cyflym Michael Hogan: “Wnaethon ni roi cyfanswm gwych ar y bwrdd a gorffennodd Meschy y batiad yn wych ar lain anesmwyth.”

Mae Morgannwg bellach yn bedwerydd yn y grŵp, ddau bwynt y tu ôl i Swydd Gaint sydd ar y brig.

Ac fe fydd rhaid iddyn nhw deithio i Tunbridge Wells i wynebu’r arweinwyr cyn diwedd y grwpiau (Gorffennaf 10), yn ogystal â mynd i Hove i herio Swydd Sussex (Gorffennaf 17) cyn herio Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd (Gorffennaf 24).