Chris Coleman
Fe fydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn enwi ei garfan am hanner dydd heddiw ar gyfer y gêm ragbrofol fawr yn erbyn Gwlad Belg ar 12 Mehefin.

Fydd yr amddiffynwyr James Collins a Ben Davies a’r asgellwr George Williams ddim yn ffit ar gyfer y gêm, ac mae disgwyl na fydd Emyr Huws a Jonathan Williams yn gallu ymuno â’r garfan chwaith oherwydd anaf.

Ond mae disgwyl y bydd prif sêr Cymru gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen, Ashley Williams a Wayne Hennessey i gyd yn cael eu henwi.

Mae disgwyl hefyd i Coleman enwi ambell chwaraewr ifanc mewn carfan estynedig, gan gynnwys o bosib yr ymosodwr 16 oed o West Brom Tyler Roberts.

Fe drydarodd yr ymosodwr neithiwr i ddweud ei fod wedi cael “rhagor o newyddion da”, ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei enwi ar y fainc i West Brom mewn gêm Uwch Gynghrair.

Mae Cymru a Gwlad Belg yn hafal ar frig Grŵp B ar hyn o bryd, dau bwynt o flaen Israel sydd yn drydydd.

Bydd y ddau dîm uchaf yn y grŵp yn cyrraedd Pencampwriaeth Ewrop yn Ffrainc yn 2016, ac fe fydd y tîm sydd yn drydydd yn sicrhau o leiaf lle yn y gemau ail gyfle.