Crystal Palace 1–0 Abertawe
Daeth tymor da Abertawe i ben gyda chanlyniad siomedig yn erbyn Crystal Palace ar Barc Selhurst ar brynhawn Sul olaf y tymor.
Roedd gôl Marouane Chamakh yn ddigon i ennill y gêm i’r Eryrod, ond fydd yr Elyrch ddim yn rhy siomedig yn dilyn eu tymor mwyaf llwyddiannus erioed yn yr Uwch Gynghrair.
Palace oedd y tîm gorau am ran helaeth o’r gêm, ac yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, roedd y tîm cartref yn haeddu mynd ar y blaen toc cyn yr awr.
Peniodd Scott Dann gic rydd i lwybr Chamakh a gorffennodd y blaenwr yn daclus.
Prin iawn oedd bygythiad Abertawe wedi hynny, ond er nad oeddynt yn wych heddiw, rhaid rhoi clod i dîm Garry Monk wedi iddynt orffen yn wythfed yn dilyn tymor arbennig.
.
Crystal Palace
Tîm: Hennessey, Ward, Dann, Hangeland, Souaré, Puncheon, Jedinak, McArthur (Murray 36′), Zaha, Chamakh (Mutch 66′), Bolasie (Campbell 82′)
Gôl: Chamakh 57’
Cardiau Melyn: Murray 89’, Hangeland 90’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Bartley, Richards, Cork, Britton (Grimes 70′), Dyer (Barrow 64′), Emnes, Montero (Gorre 84′), Gomis
.
Torf: 25,076