Mae rheolwr Abertawe, Garry Monk wedi gwneud pedwar newid ar gyfer eu taith i wynebu Crystal Palace heddiw.

Mae Kyle Naughton yn dychwelyd am y tro cyntaf ers anaf i’w ffêr, tra bod Kyle Bartley yn dechrau yng nghanol yr amddiffyn yn lle’r capten Ashley Williams sydd wedi anafu.

Mae Jazz Richards yn dechrau yn safle’r cefnwr chwith yn lle Neil Taylor, a Leon Britton wedi’i gynnwys fel capten yng nghanol-cae yn lle Jonjo Shelvey.

Mae Marvin Emnes hefyd wedi’i gynnwys yn y tîm yn lle Gylfi Sigurdsson.

Mae lle ar y fainc i ddau o sêr tîm dan 21 yr Elyrch, Raheem Hanley a Kenji Gorre.

Yn y gôl i Crystal Palace mae’r Cymro Wayne Hennessey.

Crystal Palace: Hennessey, Ward, Dann, Hangeland, Souare, Zaha, Jedinak (capten), McArthur, Bolasie, Puncheon, Chamakh. Eilyddion: Speroni, Delaney, Kelly, Chung-Yong Lee, Mutch, Murray, Campbell.

Abertawe: Fabianski, Naughton, Fernandez, Bartley, Richards, Britton (capten), Cork, Emnes, Dyer, Montero, Gomis. Eilyddion: Tremmel, Rangel, Hanley, Grimes, Fulton, Gorre, Barrow.