Mae dyfodol disglair gan Glwb Criced Cydweli diolch i un o frodorion y dref sydd wedi mynd ati i atgyfodi’r tîm iau.

Roedd Andrew Bailey, is-gadeirydd a phrif hyfforddwr y clwb, yn un o’r llanciau diwethaf i gynrychioli’r tîm iau ddaeth i ben ganol y 1980au.

Yn dilyn cyfnod i ffwrdd o Gydweli, fe ddychwelodd yn 2010 gan sefydlu timau dan 9, 10, 11 a 12 oed o fewn y clwb.

Cymaint fu llwyddiant y timau nes bod cynlluniau ar droed i sefydlu tîm dan 14 oed ar gyfer y tymor nesaf.

Mae chwech o chwaraewyr iau’r clwb eisoes yn cynrychioli Sir Gâr, ac mae Owen Bailey, mab Andrew, wedi’i ddewis i gynrychioli tîm Cymru dan 11 oed.

Dywedodd Andrew Bailey: “Mae’n bwysig iawn magu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.

“Erbyn hyn mae gennym ddau hyfforddwr cymwysedig, ac mae’r rhaglen yn gweithio’n dda.  Mae’n wahanol iawn i’r hyn dwi’n ei gofio, pan oedd ’na un tîm iau yn unig, a dim hyfforddiant iawn.”

Fe fydd cyfle i rai o’r chwaraewyr ddangos eu doniau pan fydd Gŵyl Ysgolion Cynradd Sir Gâr yn cael ei llwyfannu yng Nghydweli ar Fehefin 8.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart: “Mae’n rhoi boddhad mawr i weld y cynnydd yng Nghydweli ers i Andrew adfer y rhaglen iau.

“Mae’r gêm yn dibynnu ar gael llif cyson o chwaraewyr ifanc, ac mae hon yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gwirfoddolwyr ymroddedig yn mynd ati.”