Ben Davies ar ol cael anaf i'w ysgwydd
Mae Tottenham Hotspur wedi cadarnhau y bydd yr amddiffynnwr Ben Davies allan am weddill y tymor ar ôl iddo ddatgymalu ei ysgwydd.

Cafodd Davies ei gludo o’r cae yn y gêm gyfartal gyda Southampton ar y penwythnos, a fydd y Cymro ddim yn chwarae eto’r tymor yma.

Mae’n golygu y gallai hefyd fethu gêm ragbrofol Ewro 2016 Cymru yn erbyn Gwlad Belg ar 12 Mehefin.

Prinder amddiffynwyr?

Fe fyddai absenoldeb Ben Davies yn ergyd i reolwr Cymru Chris Coleman, wedi i’r amddiffynnwr berfformio’n dda yng ngêm ddiwethaf y tîm cenedlaethol yn Israel.

Byddai Neil Taylor yn debygol o chwarae fel cefnwr chwith yn ei absenoldeb, ac os yw Coleman yn dewis chwarae gyda thri amddiffynnwr canol fe fyddai’n gallu dewis Ashley Williams, James Collins a James Chester.

Ond fe fyddai prinder amddiffynwyr canol petai un o’r rheiny yn methu’r gêm hefyd, gyda Sam Ricketts a Paul Dummett ymysg y dewisiadau eraill posib.

Brwydro am y brig

Byddai Cymru’n codi i frig y grŵp rhagbrofol petai nhw’n trechu Gwlad Belg, ac fe fyddai gêm gyfartal yn eu cadw nhw yn yr ail safle.

Byddai buddugoliaeth ym mis Mehefin hefyd yn golygu bod Cymru bron yn sicr o fod ym Mhot Un ar gyfer grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 sydd yn cael eu dewis yn hwyrach eleni.

Ac fe ddywedodd cyn-reolwr Cymru Mark Hughes bod gan y tîm cenedlaethol bellach mwy o ddyfnder nag unrhyw dîm y bu ef yn rhan ohoni.

“Dw i’n meddwl bod y dyfnder yn well,” meddai Mark Hughes.

“Roedd gennym ni yn sicr fechgyn oedd yn chwarae gyda chlybiau da, ond doedden nhw ddim yn chwarae’n rheolaidd.

“Dw i’n meddwl bod y rhan fwyaf o’r garfan sydd yn gwisgo crys Cymru nawr yn chwarae gemau da ar lefel uchel bob wythnos, a dyna beth sydd angen arnom ni.”