Caerdydd 3–2 Blackpool

Daeth tymor siomedig yn Stadiwm Dinas Caerdydd i ben gyda buddugoliaeth i’r Adar Gleision dros Blackpool brynhawn Sadwrn.

Mae tymor cyntaf Caerdydd yn ôl yn y Bencampwriaeth wedi bod yn un hynod siomedig ond cawsant fuddugoliaeth yn eu gêm gartref olaf wrth i’r tîm sydd ar waelod y tabl ymweld â phrifddinas Cymru.

Deunaw munud oedd wedi mynd pan roddodd Joe Mason Gaerdydd ar y blaen gydag ergyd isel yn dilyn gwaith creu Eoin Doyle.

Ychwanegodd Doyle yr ail ei hun wedi hanner awr gyda chic o’r smotyn ar ôl trosedd Henry Cameron ar Aron Gunnarsson.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Blackpool yn ôl yn y gêm yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi ergyd dda o bellter gan gyn chwaraewr Abertawe o bawb, Andrea Orlandi.

Adferodd Doyle y ddwy gôl o fantais serch hynny gyda’i ail gic o’r smotyn chwarter awr o’r diwedd, yn dilyn trosedd Miles Addison ar Mason y tro hwn.

Gôl gysur yn unig felly oedd cynnig hwyr Peter Clarke i’r ymwelwyr wrth i’r Adar Gleision orffen y tymor gyda buddugoliaeth gartref brin.

Mae’r tri phwynt yn eu cadw yn y trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth gyda un gêm ar ôl, oddi cartref yn erbyn Nottingham Forest yr wythnos nesaf.

.
Caerdydd
Tîm:
Marshall, Peltier, Ecuele Manga, Morrison, Fabio, Kennedy, Gunnarsson, Ralls (O’Keefe 22′), Noone (Pilkington 70′), Doyle, Mason (Maynard 85’)
Goliau: Mason 19’, Doyle [c.o.s.] 31’, [c.o.s.] 76’
Cardiau Melyn: Kennedy 36’, Noone 69’
.
Blackpool
Tîm:
Parish, Maher, Clarke, Addison, Dunne, Cubero Loria (Orlandi 45′), Perkins, O’Hara, Osavi-Samuel (Telford 45′), Madine (O’Dea 49′), Cameron
Goliau: Orlandi 48’, Clarke 90’
Cardiau Melyn: Addison 44’, O’Hara 66’
.
Torf: 26,357