Newcastle 2–3 Abertawe

Sicrhaodd Abertawe eu cyfanswm pwyntiau uchaf erioed yn Uwch Gymghrair Lloegr gyda buddugoliaeth dros Newcastle ar Barc St James brynhawn Sadwrn.

Aeth yr Elyrch ar ei hôl hi yn yr hanner cyntaf ond unionodd Oliveira eiliadau cyn yr egwyl cyn i goliau ail hanner Sigurdsson a Cork ennill y gêm i’r Cymry.

Dechreuodd Newcastle yn dda ac roeddynt ar y blaen wedi ugain munud wedi i Ayoze Perez fanteisio ar gamgymeriad amddiffynnol Jordi Amat i sgorio yn dilyn gwaith da Emmanuel Riviere arf yr asgell.

Unionodd Abertawe doc cyn hanner amser pan beniodd Nelson Oliveira gic gornel Gylfi Sigurdsson i gefn y rhwyd.

Abertawe oedd orau ar ddechrau’r ail hanner a rhoddodd Sigurdsson yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi gwaith creu Jefferson Montero.

Ychwanegodd Jack Cork drydedd ugain munud o’r diwedd ac er i Siem de Jong dynnu un yn ôl i’r tîm cartref dri munud o ddiwedd y naw deg, fe ddaliodd yr Elyrch eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Mae’r fuddugoliaeth honno’n eu codi i 50 pwynt, eu cyfanswm gorau yn yr Uwch Gynghrair a digon i’w cadw yn yr wythfed safle am y tro.

.
Newcastle
Tîm:
Krul, Janmaat (Abeid 61′), Williamson, Coloccini, Anita, Colback, Taylor, Gutiérrez, Cabella (de Jong 74′), Riviere (Armstrong 74′), Pérez
Goliau: Perez 20’, de Jong 87’
Cerdyn Melyn: Anita 39’
.
Abertawe
Tîm:
Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Amat, Cork, Shelvey, Dyer Sigurdsson (Emnes 81′), Montero (Grimes 69′), Castro Oliveira (Ki Sung-yueng 72′)
Goliau: Oliveira 45’, Sigurdsson 49’, Cork 71’
Cardiau Melyn: Amat 42’, Emnes 90′
.
Torf: 46,884