Gareth Bale
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi mynnu mai “gwleidyddiaeth” clwb Real Madrid sydd yn gyfrifol am y feirniadaeth ddiweddar mae Gareth Bale wedi ei dderbyn.

Dros y penwythnos fe sgoriodd Bale ei goliau cyntaf dros Real Madrid yn 2015, yn dilyn cyfnod ble buodd e a gweddill y tîm yn chwarae’n siomedig.

Mae’r Cymro wedi cael ei feirniadu’n hallt gan rannau o’r dorf a’r wasg, gan ei gyhuddo o fod yn ddiog ar y cae.

Ond nid felly mae Coleman, a enwodd Bale yn ei garfan ar gyfer y gêm hollbwysig yn Israel yr wythnos nesaf, yn ei gweld hi.

‘Dal yn y storm’

Ar ôl sgorio’i gôl gyntaf yn erbyn Levante dydd Sadwrn fe roddodd Bale ei ddwylo dros ei glustiau wrth ddathlu, awgrym nad oedd o’n gwrando ar y feirniadaeth.

Ond fe fynnodd Coleman nad oedd hynny’n arwydd fod cyn-chwaraewr Tottenham a Southampton yn ystyried dychwelyd i Loegr i chwarae pêl-droed.

“Fe ddylai o aros ble mae e,” meddai Coleman.

“Mae Gareth yn ddigon da i ennill y tlysau mawr, chwarae ar y llwyfan uchaf a chwarae i’r clwb mwyaf.

“Mae’n wahanol i Manchester United neu Chelsea [sydd ar ei ôl, yn ôl y sôn] achos er bod pwysau i berfformio bob gêm yn fanno, yn Madrid mae e bron fel sioe ac mae’n rhaid cael ei diddanu.”

Ychwanegodd fod asiant Bale wedi awgrymu nad oedd sail i’r sïon chwaith.

“Fe siaradais i gyda’i asiant dridiau yn ôl, mae e’n hollol iawn a does dim problemau,” meddai Coleman.

“Bale yw chwaraewr drytaf y byd ac mae gwleidyddiaeth i hyn i gyd.

“Mae e wedi cael ei ddal yn y storm ond, yn nabod Gareth fel ydw i, bydden i’n synnu’n fawr tase fe’n dweud ‘dw i wedi cael digon, dw i ddim yn derbyn hynny a dw i’n dod gartref’.”

Herio Israel

Bydd angen Gareth Bale yn tanio i Gymru os ydi tîm Chris Coleman eisiau trechu Israel yn eu gêm ragbrofol fawr Ewro 2016 ar 28 Mawrth.

Yn anffodus i Coleman ni fydd James Chester, Paul Dummett, Emyr Huws, Jonny Williams na George Williams ar gael oherwydd anafiadau.

Ond y newyddion da i Gymru yw bod nifer o’u prif chwaraewyr gan gynnwys Aaron Ramsey, Joe Allen ac Ashley Williams wedi bod yn chwarae’n dda i’w clybiau yn ddiweddar.

Bydd Israel, sydd ar frig y grŵp ar hyn o bryd a phwynt o flaen Cymru yn ail, yn enwi eu carfan nhw ar y penwythnos.

Ac mae Coleman yn hyderus y bydd Bale yn gallu delio â’r “pwysau” yn Haifa o geisio codi Cymru i frig y grŵp.

“Mae e’n gweithio’n dda i ni ac yn ffitio’r system os ydyn ni’n chwarae e yn y canol neu ar yr asgell, fel rhif naw neu 10,” meddai Coleman am Bale.

“Fe allen ni fynd i Haifa wythnos nesaf ac fe gaiff e gêm wael, ond fe all e dal sgorio gôl allai ennill y gêm i ni allan o ddim byd.

“Mae’r pwysau arno nawr ond mae e wedi dangos ei fod e’n gallu delio â hynny mewn gemau mawr.

“Mae e’n hoffi bod yn yr amgylchedd yna pan mae popeth yn dibynnu ar bethau ac mae’n haeddu chwarae mewn twrnament mawr.”