Sam Vokes
Mae’r ymosodwr Sam Vokes wedi’i gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer eu taith i herio Israel yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016.

Dydy ymosodwr Burnley ddim wedi chwarae i Gymru ers anafu gewynnau ei benglin ddechrau 2014, ond fe ddychwelodd i’w glwb ar Ŵyl San Steffan.

Mae’r ymosodwr arall, Simon Church bellach yn holliach ar ôl anafu ei ysgwydd, ac mae’n dychwelyd i’r garfan ar ôl colli’r gêm yng Ngwlad Belg ym mis Tachwedd.

Ond fe fydd Cymru heb amddiffynnwr canol Hull, James Chester ar ôl iddo ddatgymalu ei ysgwydd ym mis Ionawr.

Fe fydd Cymru hefyd yn wynebu’r daith i Haifa heb y cefnwr Paul Dummett (anaf i’w benglin), a’r chwaraewyr canol-cae George Williams (anaf i’w benglin) ac Emyr Huws (anaf i’w ffêr).

Israel sydd ar frig Grŵp B ar hyn o bryd, yn dilyn tair buddugoliaeth allan o dair, a Chymru sy’n ail, un pwynt ar ei hôl hi.

Carfan Cymru: Hennessey, Fôn Williams, Ward, Williams, Collins, Davies, Gunter, Taylor, Ricketts, Richards, Henley, Allen, Ledley, Ramsey, Vaughan, Edwards, MacDonald, Cotterill, Robson-Kanu, Lawrence, Bale, Church