Gareth Bale
Mae rheolwr tîm pêl-droed Israel wedi awgrymu mai’r rheswm pam nad yw Gareth Bale wedi bod yn chwarae cystal i Real Madrid yn ddiweddar yw oherwydd ei fod yn “arbed ei hun” i Gymru.

Bydd tîm Chris Coleman yn teithio i Israel ar gyfer gêm ragbrofol allweddol ar 28 Mawrth, wrth i Gymru freuddwydio am geisio cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc.

Bale fydd prif fygythiad ymosodol Cymru yn ystod yr ymgyrch honno, er gwaethaf y ffaith ei fod bellach wedi mynd naw gêm heb sgorio i Real Madrid.

Cafodd y Cymro ei feirniadu unwaith eto neithiwr ar ôl perfformiad siomedig yn erbyn Schalke yng Nghynghrair y Pencampwyr.

‘Arbed ei hun’

Dyma yw’r rhediad hiraf o gemau y mae Bale wedi mynd heb sgorio i’w glwb ers ei gyfnod yn Tottenham yn 2011.

Dyw e heb sgorio yn ei dair gêm ddiwethaf dros Gymru chwaith, ei rediad mwyaf o gemau heb wneud hynny i’w wlad ers 2011 hefyd.

Ond yn ôl rheolwr Israel Eli Guttman y rheswm pam fod Bale wedi bod yn siomedig i Real yn ddiweddar yw oherwydd ei fod yn cadw’i orau ar gyfer y crys coch.

“Rydw i’n teimlo fod Bale yn cadw ei orau ar gyfer y tîm cenedlaethol,” meddai Guttman wrth ohebwyr yn Israel.

“Mae’r milltiroedd y mae’n ei redeg a lefel ei ymroddiad i’r tîm cenedlaethol yn ddim byd tebyg i sut mae’n chwarae dros Real Madrid.

“Pan oedd ganddyn nhw chwaraewr oedd wedi anafu [George Williams, sydd allan am chwe mis] Bale oedd y cyntaf i [drydar] ‘brysia wella’.

“Maen nhw fel ni, yn un grŵp, ond Bale yw’r un sydd yn rhoi cydbwysedd iddyn nhw.”

Israel yn paratoi

Mae chwaraewyr rhyngwladol Israel sydd yn chwarae i glybiau’r wlad eisoes wedi cyfarfod ar gyfer sesiynau ymarfer cyn y gêm yn erbyn Cymru ar 28 Mawrth.

Dyw’r garfan honno ddim yn cynnwys y chwaraewyr sydd yn chwarae i glybiau mewn gwledydd eraill yn Ewrop ac mae’n debygol y bydd newidiadau yn cael ei gwneud iddi.

Does dim lle fodd bynnag i gyn-asgellwr Chelsea a Lerpwl Yossi Benayoun, ond mae cyn-ymosodwr Abertawe Itay Shechter yn y garfan.

Ac mae Guttman wedi mynnu y bydd yn rhaid i’w dîm fod ar eu gorau i ddelio â bygythiad Bale – er bod Israel eisoes wedi llwyddo i gadw Cristiano Ronaldo’n ddistaw mewn gêm ragbrofol yn erbyn Portiwgal ddwy flynedd yn ôl.

“Mae’n rhaid i ni fod yn agos a pheidio â rhoi lle gwag i Bale. Os na wnawn ni hynny, fe wneith e’n lladd ni,” meddai Guttman.

“Ond fe fydd y chwaraewyr yn gwylio fideos o Gymru, ym mhob siâp. Mae’r rhan fwyaf o’u tîm nhw yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair. Fe welais i Aaron Ramsey yn erbyn Manchester United ac roedd e’n wych.

“Dw i’n meddwl byddan nhw’n chwarae 4-4-1-1 ond fe fyddwn ni’n barod os oes ganddyn nhw system arall. Mae fy chwaraewyr i’n gwybod mai dim ond mewn grŵp y gallwn ni gynnig rhywbeth i’w herio nhw.”

Bydd Cymru yn enwi eu carfan nhw ar gyfer y daith i Israel dydd Mercher 18 Mawrth.

Carfan ymarfer Israel:

Guy Haimov, Ariel Harush, Ofir Marciano

Oded Elkayam, Taleb Tawatha, Orel Dgani, Sheran Yeini, Omri Ben Harush, Eitan Tibi, Ofir Davidzada, Eyal Meshumar, Shir Tzedek

Roei Kehat, Eran Zahavi, Maor Buzaglo, Gili Vermouth, Mohamad Gadir

Itay Shechter, Elyaniv Barda, Tal Ben Haim II