Wrecsam 0–0 Southport

Cafwyd perfformiad siomedig arall gan Wrecsam yn y Gyngres nos Fawrth wrth iddynt chwarae gêm gyfartal ddi sgôr ddi fflach yn erbyn Southport.

Yr ymwelwyr a gafodd y cyfleoedd gorau cyn yr egwyl ond llwyddodd Andy Coughlin yn y gôl i atal Richard Brodie a Scott Kay.

Daeth cyfle gorau Wrecsam i’r amddiffynnwr, SteveTomassen, yn hwyr yn y gêm, ond anelodd yntau yn syth at y golwr, Peter Brezovan.

Mae’r canlyniad, er yn siomedig, yn codi Wrecsam un lle i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl Cyngres Vanarama.
.
Wrecsam
Tîm:
Coughlin, Tomassen, Smith, Storer (Finley 74′), Stephens, Hudson, Clarke, Evans, Jennings (York 65′), Bishop, Morris (Durrell 73′)
Cerdyn Melyn: Stephens 90’
.
Southport
Tîm:
Brezovan, Challoner, Foster, Kay, Beesley, Connor (Davies 81′), Donnelly (McCarthy 85′), Brodie, Smith, Joyce, George
Cerdyn Melyn: Davies 87’
.
Torf: 2,188