Jonathan Sexton
Bydd Johnny Sexton yn holliach i wynebu Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Cadarnhaodd hyfforddwr cynorthwyol Iwerddon, Richie Murphy, heddiw fod y maswr wedi cwblhau sesiwn hyfforddi llawn heddiw, ar ôl gwella o anaf i gyhyr yn ei goes.
Ychwannegodd Richie Murphy fod gan Iwerddon dîm llawn i ddewis ohono gyda Jamie Heaslip, Sean O’Brien a Jared Payne i gyd ar gael i wynebu Cymru y penwythnos hwn.
Mae canolwr Cymru Jonathan Davies eisoes wedi dweud y bydd Jonathan Sexton yn allweddol i’r canlyniad rhwng y ddau dîm pa fyddan nhw’n cwrdd.