Wrecsam 1–0 Barnet
Cafodd Wrecsam fuddugoliaeth dda ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn yn erbyn y tîm sydd ar frig y Gyngres, Barnet.
Symudodd y Dreigiau ddeg pwynt yn glir o safleoedd y gwymp gyda tri phwynt pwysig diolch i gôl Rob Evans.
Daeth unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan rwydodd Evans yn dilyn gwaith creu Louis Moult.
Roedd Barnet i lawr i ddeg dyn toc cyn yr awr wedi i John Akinde dderbyn ail gerdyn melyn am geisio twyllo.
Cafodd yr ymwelwyr gyfleoedd i unioni pethau wedi hynny ond gwnaeth Andy Coughlin yn dda i gynnal llechen lân ei dîm a sicrhau’r tri phwynt.
Mae Wrecsam yn aros yn yr ail safle ar bymtheg yn nhabl Cyngres Vanarama er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent bellach ddeg pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Tomassen, Smith, Waterfall, Ashton, Evans (Harris 66′), Clarke, Storer, Jennings, Moult (Bishop 82′), Morris (York 70′)
Gôl: Evans 24’
Cardiau Melyn: Storer 51’, Harris 74’
.
Barnet
Tîm: Stack, Yiadom, Saville, N’Gala, Johnson, Clifford (Gambin 70′), Weston (Gash 55′), Togwell, Cook (Villa Lopez 59′), Akinde, MacDonald
Cardiau Melyn: Akinde 31’, 59’, Cook 45’, Weston 53’, Yiadom 72’
Cerdyn Coch: Akinde 59’
.
Torf: 2,727