Wycombe 1–2 Casnewydd

Cafodd Casnewydd daith lwyddiannus i Barc Adams brynhawn Sadwrn wrth gipio’r tri phwynt yn erbyn y tîm sydd yn drydydd yn nhabl yr Ail Adran, Wycombe.

Sgoriodd Yan Klukowski ddwywaith wrth i’r tîm o Gymru sefydlogi eu lle yn y safleoedd ail gyfle.

Ugain munud oedd ar y cloc pan rwydodd Klukowski ei gyntaf yn dilyn croesiad Miles Storey, ac felly yr arhosodd pethau tan yr egwyl.

Unionodd Fred Onyedinma bethau i’r tîm cartref wedi deg munud o’r ail hanner, yn sgorio ar yr ail gynnig yn dilyn ymdrech wreiddiol Sam Wood.

Ond Casnewydd a gafodd y gair olaf wrth i ail gôl Klukowski ddeuddeg munud o’r diwedd ddod â rhediad gwael yr Alltudion i ben.

Mae’r fuddugoliaeth, eu cyntaf mewn chwe gêm, yn eu cadw yn y chweched safle yn nhabl yr Ail Adran.

.
Wycombe
Tîm:
Ingram, Jombati, Pierre, Mawson, Jacobson, Bean, Murphy, Wood, Onyedinma, Craig (Holloway 86′), McClure (Hayes 67′)
Gôl: Onyedinma 55’
Cerdyn Melyn: Jacobson 87’
.
Casnewydd
Tîm
: Day, Jackson, Jones, Yakubu, Tutonda, Byrne, Porter, Klukowski, Storey (Chapman 77′), Howe (Feely 86′), O’Connor (Jeffers 80′)
Goliau: Klukowski 20’, 79’
Cerdyn Melyn: Jackson 87’
.
Torf: 3,196