Mae rheolwr Arsenal Arsene Wenger wedi dweud ei fod yn disgwyl i Aaron Ramsey fethu chwarae am bythefnos oherwydd anaf i linyn y gâr – gan olygu y dylai fod yn ffit ar gyfer gêm nesaf Cymru.

Bydd tîm Chris Coleman yn teithio i Israel ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2016 ar 28 Mawrth, ac mae’r newyddion am anaf Ramsey yn golygu y dylai’r chwaraewr canol cae fod ar yr awyren.

Ond fe gyfaddefodd Wenger eu bod nhw dal ddim yn siŵr beth sydd yn achosi holl anafiadau Ramsey – dyma’r trydydd tro iddo gael anaf o’r fath y tymor hwn.

Ac mae cyn-hyfforddwr Cymru Raymond Verheijen wedi awgrymu’r wythnos hon y dylai Ramsey adael Arsenal os yw ei broblemau gydag anafiadau yn parhau.

‘Dim rheswm amlwg’

Mae’r Cymro wedi cael tymor cymharol siomedig eleni, yn rhannol oherwydd anafiadau, ond fe gafodd drafferthion gydag anafiadau’r llynedd hefyd.

Cafodd Ramsey ei anaf diweddaraf ar ôl dod oddi ar y fainc fel eilydd yn erbyn Caerlŷr nos Fawrth, dim ond ychydig wythnosau ar ôl gwella o anaf arall i linyn y gâr.

Ond fe ddywedodd Wenger nad oedd y tîm meddygol yn Arsenal wedi dod ar draws rheswm amlwg pam ddylai Ramsey fod yn dioddef cymaint o anafiadau.

“Dydyn ni heb ffeindio’r rheswm sylfaenol,” meddai.

“Mae rheswm sylfaenol yn rhywle sydd yn feddygol neu fio-mecanyddol, achos mae e’n ddyn sydd yn cymryd pethau o ddifrif, yn gweithio’n galed.

“Does dim rheswm amlwg pam ddylai e gael anafiadau cyhyrol.”

Ond fe ychwanegodd y dylai Ramsey fod nôl yn y tîm yn fuan.

“Dyw e ddim yn anaf difrifol. [Anaf] gradd un yw e,” meddai Wenger. “Mae gennym ni hyfforddiant unigol. Dydw i ddim yn meddwl ei fod e’n achos arbennig sydd wedi cael ei esgeuluso.”

Beirniadaeth Verheijen

Fodd bynnag, yr wythnos hon mae cyn-hyfforddwr Cymru Raymond Verheijen wedi awgrymu y dylai Ramsey adael Arsenal os yw ei broblemau gydag anafiadau yn parhau.

Roedd Verheijen yn rhan o dîm hyfforddi Gary Speed gyda Chymru, ac mae wedi gwneud enw i’w hun fel hyfforddwr sydd yn arbenigo ar ffitrwydd ac anafiadau.

Mae cyn-ymosodwr Cymru Craig Bellamy yn un o’r rheiny sydd wedi canmol gwaith Verheijen o ran gwella ei ffitrwydd.

Ac fe awgrymodd y gŵr o’r Iseldiroedd y dylai Ramsey feddwl am symud clwb os yw’r problemau yn parhau.

“Mae dau ateb. Un ai mae Arsenal yn sortio eu hunain allan neu mae’n rhaid i Aaron fyn i glwb … ble mae’r ymarferion yn fwy cytbwys,” meddai Verheijen wrth BBC Sport yr wythnos hon.

“Rhaid iddo fod yn un neu’r llall. Dim ond gwella’r broblem mae staff meddygol yn gallu’i wneud, hyfforddwyr pêl-droed sy’n achosi’r broblem achos nhw sy’n gyfrifol am y sesiynau hyfforddi pêl-droed.”