Harry Redknapp
Mae Harry Redknapp wedi rhoi’r gorau i’w swydd fel rheolwr clwb pêl-droed QPR, gan honni y byddai llawdriniaeth ar ei  ben-glin yn effeithio ar ei allu i gadw’r clwb yn yr Uwch Adran.

Roedd Redknapp wedi bod o dan bwysau am fisoedd gyda QPR, gyda’r clwb ar waelod ond un yn y tabl. Roedd hefyd wedi honni fod rhai o fewn y clwb wedi ceisio tanseilio ei safle.

Er i Harry Redknapp ddweud fod ganddo gefnogaeth lawn cadeirydd y clwb, Tony Fernandes, roedd sawl adroddiad ei fod ond un gêm i ffwrdd o gael y sac ar dri achlysur gwahanol y tymor hwn.

Mae Les Ferdinand wedi cymryd yr awenau dros dro, gyda chefnogaeth gan Chris Ramsey, tra bod QPR yn chwilio am reolwr newydd.

Cyn reolwr Tottenham, Tim Sherwood, yw’r ffefryn cynnar i gymryd lle Redknapp, a byddai’n gyfle iddo daro partneriaeth arall gyda Les Ferdinand, oedd yn rhan o’i dim hyfforddi yn White Hart Lane.