Mae’r chwaraewr canol cae Sam Finley wedi ymuno â Wrecsam ar fenthyg o’r Seintiau Newydd tan ddiwedd y tymor.

Cafodd y cytundeb ei gwblhau neithiwr funudau cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau, ac fe fydd Finley ar gael ar gyfer gêm gynghrair nesaf y Dreigiau.

Dim ond wyth gwaith y mae Finley wedi chwarae dros y Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru eleni oherwydd anafiadau.

Ond fe enillodd y chwaraewr 22 oed dlws Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, ac roedd yn cael ei ystyried yn un o’r chwaraewyr disgleiriaf yn y gynghrair.

Geirda Carl Darlington

Dywedodd rheolwr Wrecsam Kevin Wilkin ei fod wedi trafod Finley gyda hyfforddwr y tîm Carl Darlington, oedd yn arfer gweithio gyda’r Seintiau Newydd, cyn arwyddo’r chwaraewr.

“Rydw i’n falch fod popeth wedi ei sortio ac fe fydd Sam yn cynnig rhywbeth gwahanol yng nghanol cae i beth sydd gennym ni’n barod,” meddai Kevin Wilkin.

“Yn amlwg mae Carl wedi gweithio yn agos gydag o, wedi helpu i ddod ag o drwyddo ac wedi argymell y chwaraewr yn gryf.

“Gobeithio y bydd o’n dod a rhywbeth gwahanol i’r safle canol cae.”

Mae Wrecsam yn cael tymor anodd yn y Gyngres eleni ac yn 17eg yn y tabl, 11 pwynt yn uwch na safleoedd y cwymp ond 12 pwynt i ffwrdd o’r gemau ail gyfle.

Ar y llaw arall mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau tymor llwyddiannus arall ac 14 pwynt yn glir ar frig Uwch Gynghrair Cymru.

Maen nhw eisoes wedi ennill y Cwpan Word a dal yng Nghwpan Cymru, gan olygu y gallan nhw dal ennill y trebl y tymor hwn.