Bafetimbi Gomis
Mae ymosodwr Abertawe Bafetimbi Gomis wedi cadarnhau y bydd yn aros gyda’r Elyrch ac na fydd yn mynd i unrhyw le heddiw.

Fe fydd y ffenestr drosglwyddo yn cau heno ac roedd sôn fod West Ham a Crystal Palace ymysg y clybiau sydd ar ôl Gomis.

Ond mae’r Ffrancwr 29 oed bellach wedi trydar yn dweud ei fod yn hapus i aros yn ne Cymru.

Dywedodd mewn cyfres o negeseuon mai aros yn Abertawe oedd ei “ddewis gorau”, ei fod e bellach ddim yn “drist” a bod ganddo ffydd yn y rheolwr Garry Monk.

Ychwanegodd ei fod yn “lwcus i fyw a chwarae yn Abertawe” a dweud bod pobl wedi bod yn gyfeillgar iawn tuag ato.

Roedd Gomis wedi bod yn anhapus ynglŷn â’r nifer o gemau yr oedd wedi chwarae yn ystod y tymor, ond ar ôl i Abertawe werthu Wilfried Bony i Man City mae e bellach yn ddewis cyntaf.

Dyw Abertawe ddim wedi bod yn awyddus i’w werthu chwaith gan mai dim ond chwe mis yn ôl y cafodd Gomis ei arwyddo, ac fe fyddai gadael iddo fynd yn golygu mai Nelson Oliveira oedd yr unig brif ymosodwr yn y clwb.