Mae Caerdydd wedi cytuno i arwyddo ymosodwr Chesterfield Eoin Doyle am ffi o dros £1m.
Fe gadarnhaodd Chesterfield fod Doyle, prif sgoriwr Cynghrair Un, yn teithio i Gaerdydd y prynhawn yma ar gyfer y prawf meddygol.
Ni wnaethon nhw gadarnhau faint oedd Caerdydd wedi cytuno i dalu, dim ond bod y swm yn un “saith ffigwr”.
Mae disgwyl y bydd Caerdydd wedi cwblhau’r trosglwyddiad cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau heno.
“Rydyn ni wedi dod i gytundeb gyda Chaerdydd ac yn teimlo fod y cytundeb yn un da i’r clwb,” meddai prif weithredwr Chesterfield Chris Turner wrth wefan y clwb.
Mae Caerdydd wedi bod yn brysur yn ystod y ffenestr drosglwyddo, ac mae sôn y gallai’r clwb ryddhau’r ymosodwr Nick Maynard cyn diwedd y dydd.