Rodney Parade
Mae’r Dreigiau wedi cadarnhau fod y mewnwr, Jonathan Evans yn gadael y rhanbarth ddiwedd y tymor.

Mae Evans wedi chwarae 73 o gemau dros y Dreigiau ers ei ymddangosiad cyntaf nôl yn 2010 yn erbyn y Gweilch.

Mi fydd y mewnwr 22 oed yn symud i Gaerfaddon pan fydd y tymor yn gorffen.

Mewn datganiad fe ddywedodd hyfforddwr y Dreigiau Lyn Jones ei fod yn drist gweld Evans yn gadael y clwb ond yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.

“Mae digon o amser ar ôl yn weddill hyd nes bod y tymor yn gorffen er mwyn  iddo adael y clwb ar nodyn uchel,” meddai Lyn Jones.

“Gobeithio cawn weld e’n dychwelyd i’r rhanbarth rhyw ben yn y dyfodol.”