Ashley Williams yn dathlu'r canlyniad yn erbyn Southampton (llun: Adam Davy/PA)
Cafodd Ashley Williams seren y gêm wrth i Abertawe gipio tri phwynt hynod o allweddol oddi cartref yn erbyn Southampton brynhawn Sul diolch i gôl gampus Jonjo Shelvey.

Llwyddodd capten Cymru i benio’r bêl oddi ar y lein a blocio ail gynnig ymosodwr Southampton Elerjo Elia i sicrhau’r fuddugoliaeth, ac roedd Neil Taylor hefyd yn rhan o’r un amddiffyn.

Chwaraeodd Joe Ledley gêm lawn i Crystal Palace ond colli 1-0 gartref oedd eu hanes nhw yn erbyn Everton.

Daeth Sam Vokes oddi ar y cae yn yr ugain munud olaf i Burnley, ond doedd ei ymdrechion ddim yn ddigon wrth i’w dîm golli 2-0 yn erbyn Sunderland.

Chwaraeodd Aaron Ramsey 77 munud ym muddugoliaeth odidog Arsenal o 5-0 yn erbyn Aston Villa, gyda goliau Giroud, Özil, Walcott, Cazorla a Bellerin yn ddigon i godi’r Gunners i’r pumed safle.

77 munud gafodd James Collins i West Ham hefyd yn y golled o 2-0 yn erbyn Lerpwl brynhawn Sadwrn, a Collins yn rhy araf i atal Raheem Sterling ar gyfer gôl gyntaf Lerpwl.

Cafodd Andy King gêm lawn i Gaerlŷr ond colli 3-1 oddi cartref yn Man United oedd eu hanes nhw.

Ac yn La Liga cafodd Gareth Bale gêm lawn i Real Madrid wrth iddyn nhw drechu Real Sociedad o 4-1 prynhawn Sadwrn, gan greu trydedd gôl y gêm i Karim Benzema yn yr ail hanner.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth, chwaraeodd David Cotterill gêm lawn yn y gêm ddi-sgôr rhwng Birmingham a Norwich, ac fe wnaeth Emyr Huws yr un peth wrth i Wigan gipio pwynt oddi cartref yn Ipswich.

Cafodd yr ymosodwr Steve Morison gêm lawn dros Leeds yn eu buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Huddersfield, gyda Joel Lynch yn chwarae dros y gwrthwynebwyr.

Cipiodd Reading dri phwynt yn erbyn Sheffield Wednesday gyda buddugoliaeth o 2-0 oddi cartref, ond fe fethodd Hal Robson-Kanu gic o’r smotyn gydag ergyd sâl iawn.

Fe chwaraeodd David Edwards a Lee Evans dros Wolves oddi cartref yn Bolton mewn gêm orffennodd yn 2-2, ac roedd Craig Morgan yn nhîm Rotherham gafodd gêm gyfartal yn Charlton.

Dim ond chwe munud gafodd Adam Matthews yn y ddarbi Old Firm wrth i Celtic drechu Rangers yn gyfforddus o 2-0, canlyniad sydd yn sicrhau lle iddyn nhw yn ffeinal Cwpan y Gynghrair yr Alban yn erbyn Dundee Utd.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe sgoriodd Marley Watkins i Inverness yn eu gêm gyfartal nhw yn erbyn Ross County sydd yn eu cadw nhw’n drydydd yn y tabl.

Ac yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Tom Bradshaw, Chris Maxwell, Joe Walsh, Gwion Edwards, Lewin Nyatanga a James Wilson.

Seren yr wythnos – Ashley Williams. Amddiffyn yn arwrol ar brydiau ac yn gyffredinol roedd amddiffyn Abertawe yn soled tu hwnt.

Siom yr wythnos – Hal Robson-Kanu. Buddugoliaeth i’w dîm ond ymdrech wantan iawn o’r smotyn ganddo – peidiwch â gadael iddo gymryd rhai Cymru!