Fe sgoriodd Hal Robson-Kanu gôl hwyr i gipio buddugoliaeth o 2-1 i Reading wrth i Gaerdydd fynd allan o Gwpan FA Lloegr yn y bedwaredd rownd.

Fe aeth Caerdydd ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i beniad pwerus Kenwyne Jones, cyn  i Oliver Norwood unioni’r sgôr gyda chic rydd ar ôl yr egwyl.

Gyda’r cloc yn tician a hithau’n edrych fel y byddai’n rhaid ailchwarae’r gêm, llwyddodd Robson-Kanu i sleifio o flaen yr amddiffynnwr a rhwydo ar ôl 88 munud i dorri calonnau Caerdydd.

Torf yn anhapus

Dim ond dwy gêm y mae Caerdydd wedi ennill nawr ers mis Tachwedd, wrth i rediad gwael y tîm barhau.

Roedden nhw ar y droed ôl am lawer o’r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda Reading yn rheoli’r gêm ar ôl yr egwyl.

Dywedodd rheolwr Caerdydd Russell Slade ar ôl y gêm y byddai ef wedi gadael y stadiwm yn llawer cynt petai e yn gefnogwr.

“Bydden i siŵr o fod wedi cerdded allan fy hun taswn ni’n gefnogwr yn ystod yr ail hanner, roedd e’n warthus,” meddai Slade.

“Bydd ‘na gyfnodau fyny ac i lawr, ond mae wedi bod yn ddiwrnod gwael i ni ac mae’n edrych fel petai ni wedi cymryd cam yn ôl.

“Fi’n cymryd cyfrifoldeb am fod y chwaraewyr yn chwarae ar y lefel yna. Doedd gennym ni ddim syniadau nag egni ac mae’n siŵr mai honno oedd y 45 munud gwaethaf ers i mi fod yma.”