Treviso 23 – 20 Y Gweilch
Daeth ymgyrch Ewropeaidd Y Gweilch i ben gyda cholled munud olaf siomedig yn Yr Eidal.
Roedd ceisiau James King ac Eli Walker wedi rhoi mantais i’r Gweilch yn yr hanner cyntaf, ond roedd y tîm cartref wedi ymladd yn ôl gyda cheisiau i Marco Barbini ac Angelo Esposito.
Er hynny, roedd yn ymddangos bod cais i’r cefnwr Richard Fussell wedi sicrhau buddugoliaeth i’r ymwelwyr, cyn i gais cosb hwyr i Treviso chwalu gobeithio y Cymry.
Mae’r Gweilch yn gorffen yn drydydd yng ngrŵp 5 – bymtheg pwynt tu ôl i’r enillwyr, Racing Metro.
Y Gweilch: Richard Fussell; Tom Grabham, Hanno Dirksen, Josh Matavesi, Eli Walker; Sam Davies, Martin Roberts; Marc Thomas, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Rynier Bernardo, James King, Sam Lewis, Justin Tipuric, Tyler Ardron (c)
Eilyddion: Sam Parry, Gareth Thomas, Dmitri Arhip, Morgan Allen, Olly Cracknell, Tom Habberfield, Aisea Natoga, Dan Evans