Wrecsam 1 – 1 Gateshead

Bydd yn rhaid i Wrecsam herio Gateshead unwaith eto nos Fercher  i benderfynu pwy fydd yn camu ymlaen i rownd nesaf Tlws yr FA.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen ar y Cae Ras heddiw diolch i gôl gan Adam Campbell, sydd ar fenthyg o Newcastle United, wedi 27 munud.

Roedd y tîm cartref yn gyfartal saith munud yn ddiweddarach wrth i’r ymosodwr Andy Bishop rwydo.

Doedd dim modd gwahanu’r ddau dîm yn yr ail hanner, a byddan nhw’n cwrdd yn Stadiwm Rhyngwladol Gateshead nos Fercher i weld pwy fydd yn cyrraedd y bedwaredd rownd.

Wrecsam: Coughlin, Tomassen, Smith, Waterfall, Ashton, Clarke, Keates, Carrington, Moult, Bishop, York

Eilyddion: Blaine Hudson, Ross White, Jay Harris, Theo Bailey-Jones, Joe Whittington