Y Drenewydd 1–0 Y Rhyl

Mae gobeithion y Drenewydd o gyrraedd chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru ar y toriad yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth gartref yn erbyn Y Rhyl brynhawn Sul.

Cael a chael oedd hi ond roedd gôl wych Neil Mitchell yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r tri phywnt i’r tîm cartref ar Barc Latham.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Rhyl yn addawol a bu bron iddynt fynd ar y blaen o fewn y pum munud cyntaf, ond arbedodd David Jones un-ar-un yn erbyn Ashley Stott cyn i gynnig Tom Rowlands cael ei phenio i ffwrdd gan amddiffynnwr.

Roedd gôl Mitchell wedi chwarter awr fymryn yn erbyn llif y chwarae felly, ond am gôl. Anelodd ergyd wych i’r gornel uchaf o 25 llath yn dilyn rhediad da Matthew Hearsey, dim gobaith i Alex Ramsay yn y gôl i’r Rhyl.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf wedi hynny, er mai Aaron Bowen a’r Rhyl a gafodd y cyfle gorau. Gwnaeth Jones yn dda i’w atal, 1-0 ar hanner amser.

Ail Hanner

Y Rhyl oedd y tîm gorau wedi’r egwyl a daethant yn agos iawn i unioni ar ddau achlysur cyn yr awr. Roedd angen arbediad da iawn gan Jones i atal ergyd Rowlands a tharodd cynnig Michael Walsh yn erbyn y trawst.

Wrth i’r Rhyl bwyso roedd bylchau’n ymddangos yn y cefn ac arweiniodd gwrthymosodiad gan y Drenewydd at gic o’r smotyn bum munud o’r diwedd pan lawiodd Ryan Astles yn y cwrt. Llwyddodd Ramsay serch hynny i gadw’r Claerwynion yn y gêm gydag arbediad da o gynnig Craig Williams.

Dylai’r Rhyl fod wedi cael cic o’r smotyn eu hunain yn fuan wedyn wedi i Shane Sutton lorio Jack Kenny ond chafodd hi ddim mo’i rhoi gan Huw Jones y dyfarnwr.

Roedd digon o amser ar ôl i James Brewerton roi’r bêl yn rhwyd y Drenewydd hefyd ond cafodd honno ei gwrthod gan fod cyn gapten Bangor yn camsefyll.

Chwip o gêm felly a chanlyniad braidd yn anheg ar y Rhyl yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Drenewydd yn seithfed a’r Rhyl yn wythfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair, ond dim ond pwynt sydd bellach yn gwahanu’r Drenewydd a Phort Talbot yn y chweched safle, gyda dim ond un gêm i fynd tan y toriad.

.
Y Drenewydd
Tîm:
Jones, Williams, Sutton, G.Cadwallader (Goodwin 53’), Edwards, Owen, Mitchell, Evans (Price 72’), Boundford, Hearsey (Partridge 90’), Oswell
Gôl: Mitchell 15’
Cardiau Melyn: Sutton 53’, Oswell 90’
.
Y Rhyl
Tîm:
Ramsay, Woodward, Brewerton, Astles, Thompson, Stones, Walsh, Hughes, Rowlands, Stott, Bowen (Kenny 77’)
Cardiau Melyn: Thompson 31’, Walsh 61’, Rowlands 70’, Brewerton 90’
.
Torf: 289