Wilfried Bony
Mae Abertawe a Man City wedi dod i gytundeb ynghylch trosglwyddiad yr ymosodwr Wilfried Bony i Stadiwm Etihad, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu y bydd yr Elyrch yn derbyn oddeutu £30 miliwn am yr ymosodwr sy’n cynrychioli’r Côte d’Ivoire yng Nghwpan Gwledydd Affrica ar hyn o bryd.

Dywedodd rheolwr yr Elyrch, Garry Monk yr wythnos hon y byddai’n rhaid i Man City dalu’r £30 miliwn yn llawn am Bony, ac fe fyddai’r ffi yn record i Abertawe.

Bony oedd y prif sgoriwr yn yr Uwch Gynghrair yn ystod 2014, gydag 20 o goliau.

Ymunodd â’r Elyrch am £12 miliwn o Vitesse Arnhem yn 2013.

Yn ôl adroddiadau, fe geisiodd Chelsea gipio Bony oddi ar Man City ar yr unfed awr ar ddeg, ond mae’n ymddangos eu bod nhw wedi bod yn aflwyddiannus.