Vincent Tan (John Candy CCA 2.0)
Fe allai tîm pêl-droed Caerdydd ailddechrau chwarae mewn glas a throi’n ôl at fathodyn yr aderyn.

Fe fydd cyfarwyddwyr y clwb yn ystyried newid eu polisi mewn cyfarfod heddiw, ar ôl trafodaethau gyda chefnogwyr neithiwr.

Mae Cadeirydd y clwb yn dweud y bydd yn cyfleu barn y cefnogwyr sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn penderfyniad y perchennog, Vincent Tan, i chwarae mewn coch a chael draig ar y bathodyn yn lle aderyn glas.

Yn ôl Mehmet Dalman, fe fydd yn gofyn i Vincent Tan wneud penderfyniad cyflym – fe fydd y perchennog yn cymryd rhan yn y cyfarfod trwy gysylltiad o bell.

‘Colli arian’

Mae’r cefnogwyr yn mynnu bod y clwb ar ei golled ers newid lliwiau, gyda chefnogwyr yn gwrthod prynu crysau a nwyddau eraill.

Eu neges nhw neithiwr oedd y byddai Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn dop fory, pebai Caerdydd yn chwarae mewn glas yn erbyn Fulham.

Er hynny, fe allai rheolau’r Gymdeithas Bêl-droed atal y clwb rhag newid yn ôl yn syth.

Roedd Vincent Tan wedi gobeithio y byddai newid y lliw a’r bathodyn yn denu mwy o gefnogaeth, yn enwedig yn y Dwyrain Pell.