Gordon Taylor (o wefan y PFA)
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol wedi ymddiheuro oriau ar ôl cymharu achos y treisiwr Ched Evans gydag ymgyrch teuluoedd trychineb Hillsborough.
Mae Gordon Taylor wedi ymddangos ar radio lleol ar Lannau Mersi i ymddiheuro am ei sylwadau a dweud nad oedd wedi bwriadu achosi gofid i neb wrth awgrymu y gallai blaenwr Cymru, fel y cefnogwyr, gael ei glirio yn y pen draw.
Ar ôl i gefnogwyr Lerpwl alw am ei ymddiswyddiad, roedd yn mynnu ei fod wedi cefnogi ymgyrch perthnasau’r 96 o gefnogwyr y clwb a fu farw yn Hillsborough a’i fod yn barod i fynd i siarad yn bersonol gyda nhw.
‘Angen trafod’
Yn y cyfamser, mae Cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi dweud na fedran nhw ymyrryd yn achos Ched Evans, wrth i’r chwaraewr o Gymru geisio cael y cyfle i ailddechrau chwarae’n broffesiynol.
Yn ôl Greg Dyke, mae angen trafodaeth ar y cwestiwn ac ystyried polisi at y dyfodol.