Ched Evans
Mae galwadau ar i bennaeth Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol ymddiswyddo ar ôl cymharu cais y treisiwr Ched Evans i ailddechrau chwarae i ymgyrch teuluoedd Hillsborough.
Mae Gordon Taylor hefyd wedi awgrymu y gallai’r blaenwr o Gymru gael ei glirio o’r drosedd yn y pen draw.
Bellach, mae cefnogwyr Lerpwl, a gollodd 96 o gyd-gefnogwyr yn nhrychineb Hillsborough, wedi galw am ymddiswyddiad Prif Weithredwr y PFA.
Roedd y sylwadau “yn hollol ffiaidd” meddai un ac roedd un arall yn galw ar i glwb Lerpwl wrthod chwarae nes bod Gordon Taylor yn mynd.
‘Rheolaeth y mob’
Fe ddaeth y sylwadau ar Radio Five Live wrth i Gordon Taylor ymateb i’r newyddion na fydd Ched Evans yn arwyddo i glwb Oldham er gwaetha’ trafodaethau hir.
Roedd yntau’n rhoi’r bai ar “reolaeth y mob” a’r cyfryngau am roi pen ar y cynlluniau trwy godi ofn ar noddwyr y clwb.
Mae Cymdeithas y PFA yn gyson wedi galw am i’r chwaraewr 26 oed gael dod yn ôl i chwarae ar ôl bod yn y carchar am hanner ei ddedfryd o bum mlynedd am dreisio.
Ond, bob tro y daeth straeon am gysylltiadau rhwng Ched Evans a chlwb, fe fu miloedd o bobol yn arwyddo deisebau ar-lein yn erbyn a noddwyr a chefnogwyr yn bygwth troi cefn ar y clybiau.
Maen nhw’n mynnu na ddylai treisiwr gael chwarae’n broffesiynol eto oherwydd statws arwrol pêl-droedwyr ymhlith pobol ifanc ac am nad yw Ched Evans wedi ymddiheuro am yr hyn a wnaeth.
Sylwadau Gordon Taylor
Dyma grynodeb o’r hyn a ddywedodd Gordon Taylor ar raglen Radio Five Live.
“Nid ef [Ched Evans] fyddai’r person neu bersonau cyntaf i’w cael yn euog, mynnu eu bod yn ddieuog a chael eu profi’n gywir wedyn.
“Os yden ni’n siarad am beethau pêl-droed, rydyn ni’n gwybod beth ddigwydodd, yr honiad o beth oedd wedi digwydd yn Hillsborough.
“Ac mae hynny bellach yn ymddatod a rydyn ni’n ffeindio’i fod yn wahanol iawn i’r hyn oedd yn cael ei ddarlunio ar y pryd – yn wir gan yr heddlu ar y pryd.
“Mae [Ched Evans] mewn sefyllfa anodd iawn achos mae wedi cael ei roi trwy’r mangl a’r funud y byddwch chi’n dangos cydymdeimlad at Ched bydd pawb yn dweud, Wel, beth am y bobol eraill yn y mater?’ A dyna pam yr ydw i’n gwneud y pwynt nad oes neb yn eu hanghofio nhw.
“Yn amlwg, dydy hi ddim yn amser da iddo ef – mae angen cefnogaeth fel y mae angen cefnogaeth ar bawb arall yn y digwyddiad arbennig yma, a’r ferch yn gymaint â neb.”
‘Ymddiheuriad’ Ched Evans
Mae Ched Evans bellach wedi ymddiheuro am “effaith” y digwyddiadau yn Rhyl a arweiniodd at ei gael yn euog o dreisio merch mewn gwesty.
Ond, ar y wefan ddadleuol sy’n cefnogi ei ymgyrch i chwarae eto, mae’n dal i fynnu nad yw’n euog ac yn dweud ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol i beidio â thrafod y digwyddiad.
“Tra ydw i’n dal i fynnu fy mod yn ddieuog, dw i esiau gwneud yn glir fy mod yn ymddiheuro’n llwyr am yr effaith a gafodd y noson honno yn Y Rhyl ar lawr o bobol, yn enwedig y ddynes.”