Wilfried Bony
Mae rheolwr Abertawe Garry Monk wedi dweud bod y clwb yn benderfynol o sicrhau bod Man City yn talu £30 miliwn am yr ymosodwr Wilfried Bony.

Yn ôl adroddiadau, fe ddylai’r trosglwyddiad gael ei gwblhau’r wythnos hon er nad yw Man City wedi cynnig y ffi llawn eto.

Dywedodd Garry Monk: “Maen nhw wedi trafod ffi ond mae’n aneglur ar hyn o bryd a ydyn nhw’n agos neu ymhell ohoni.

Cafodd Bony ei brynu am £12 miliwn o Vitesse Arnhem yn 2013 – record i’r Elyrch ar y pryd.

Ers hynny mae ymosodwr y Côte d’Ivoire wedi sgorio 34 o goliau mewn 70 o gemau.

Bony oedd prif sgoriwr yr Uwch Gynghrair yn 2014 gydag 20 o goliau.

Arwyddodd Bony gytundeb newydd gydag Abertawe saith wythnos yn ôl a fyddai’n ei gadw yn Stadiwm Liberty tan 2018.

Cafodd isafswm pris o £19 miliwn ei ddileu o’r cytundeb blaenorol.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod Bony yn disgwyl ennill hyd at £200,000 yr wythnos pe bai’n symud i Man City.

Yn y cyfamser, mae Garry Monk wedi wfftio adroddiadau bod yr eilydd delfrydol ar gyfer Bony, Bafetimbi Gomis yn symud i Crystal Palace.

Dywedodd rheolwr Crystal Palace, Alan Pardew yn gynharach heddiw ei fod yn awyddus i arwyddo ymosodwr newydd, ac roedd cadeirydd y clwb, Steve Parish yn bresennol yng ngêm yr Elyrch yn erbyn Tranmere yng Nghwpan yr FA yr wythnos diwethaf.