Abertawe 1–0 Aston Villa

Roedd gôl gynnar Gylfi Sigurdsson yn ddigon i Abertawe gipio’r tri phwynt wrth i Aston Villa ymweld â’r Liberty brynhawn Gwener.

Dechreuodd yr Elyrch yn dda gyda Jefferson Montero yn ddraenen gyson yn ystlys Jores Okore ar yr asgell.

Enillodd yr asgellwr gic rydd tu allan i gornel y cwrt cosbi wedi deuddeg munud a llwyddodd Sigurdsson i’w chrymanu’n gelfydd i’r gornel uchaf.

Doedd Abertawe ddim cystal wedi i Montero adael y cae gydag anaf hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf a Villa oedd y tîm gorau wedi’r egwyl.

Byddai gêm gyfartal wedi bod yn ganlyniad teg o bosib ond llwyddodd y Cymry i ddal eu gafael diolch i arbediad gwych Lukasz Fabianski i atal Christian Benteke yn y munudau olaf.

Mae’r canlyniad yn codi Abertawe i’r seithfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, cyn i Arsenal chwarae yn y gêm hwyr o leiaf.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Fernández, Williams, Taylor, Shelvey (Carroll 60′), Ki Sung-yueng, Dyer, Sigurdsson (Emnes 78′), Montero (Routledge 22′), Bony

Gôl: Sigurdsson 13’

Cerdyn Melyn: Shelvey 24’

.

Aston Villa

Tîm: Guzan, Hutton, Okore, Vlaar, Clark, Cissokho (Weimann 45′), Delph, Sánchez, Cleverley (Grealish 77′), Agbonlahor, Benteke

Cardiau Melyn: Sánchez 36’, Clark 49’, Okore 76’, Agbonlahor 89’

.

Torf: 20,683