Charlton 1–1 Caerdydd

Gêm gyfartal gafodd Caerdydd yn erbyn Charlton brynhawn Gwener er i’r tîm cartref chwarae bron i awr gyda deg dyn ar y Valley.

Aeth Caerdydd ar y blaen diolch i gôl hanner cyntaf Tom Adeyemi ond cipiodd Charlton bwynt diolch i gôl hwyr Johann Berg Gudmunsson.

Ychydig dros chwarter awr oedd wedi mynd pan beniodd Adeyemi yr ymwelwyr ar y blaen o dafliad hir Aron Gunnarsson.

Rhoddwyd hwb arall i obeithion y Cymry chwarter awr yn ddiweddarach pan welodd Callum Harriott gerdyn coch am dacl flêr ar Craig Noone.

Llwyddodd deg dyn y tîm cartref serch hynny i reoli’r meddiant wedi’r egwyl wrth i drafferthion Caerdydd ar y ffordd barhau.

A cafodd Charlton bwynt haeddianol ddau funud o’r diwedd pan rwydodd Berg Gudmunsson mewn steil o bum llath ar hugain.

Ma’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn y degfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Charlton

Tîm: Etheridge, Solly, Ben Haim, Bikey Amougou, Gomez (Onyewu 59′), Berg Gudmundsson, Buyens, Jackson (Vetokele 59′), Harriott, Cousins, Tucudean

Gôl: Berg Gudmundsson 88’

Cerdyn Melyn: Solly 70’

Cerdyn Coch: Harriott 33’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Brayford, Morrison, Turner, John, Gunnarsson, Adeyemi (Ralls 89′), Whittingham, Noone, Le Fondre (Harris 69′), Jones

Gôl: Adeyemi 17’

Cerdyn Melyn: Morrison 64’

.

Torf: 17,543