Prestatyn 1–2 Bangor

Cafodd Bangor fuddugoliaeth yn erbyn Prestatyn ar Erddi Bastion brynhawn Sul er iddynt chwarae rhan helaeth o’r gêm gyda deg dyn, a’i gorffen gyda naw.

Roedd Les Davies eisoes wedi rhoi’r Dinasyddion ar y blaen cyn i Leon Clowes dderbyn cerdyn coch hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf. Ac roedd Chris Jones wedi dyblu’r fantais yn yr ail gyfnod cyn i Davies dderbyn ail goch yr ymwelwyr.

Tynnodd Jordan Davies un yn ôl i Brestatyn ond doedd hynny ddim yn ddigon i dîm Neil Gibson.

Hanner Cyntaf

Gyda gwynt cryf y tu ôl iddynt, Bangor oedd yr unig dîm oedd ynddi yn yr hanner cyntaf a bu bron i Damian Allen eu rhoi ar y blaen wedi pum munud ond cafodd ei ergyd ei hatal gan Ross Stephens, â’i law o bosib.

Bu rhaid i David Hayes fod yn ddewr i sefyll o flaen ergyd gan Ryan Edwards hefyd ond mater o amser oedd hi tan i’r gôl gyrraedd, ac fe ddaeth hi wedi chwarter awr o chwarae. Cic hir i lawr y cae gan y golwr, Jack Cudworth, a Les yn cadw’i ben i basio’r bêl i’r gornel isaf.

Roedd gan Fangor reolaeth llwyr ond peryglwyd hynny pan dderbyniodd Clowes gerdyn coch am fynd benben â Ben Maher yng nghanol ffrwgwd yng nghwrt cosbi Prestatyn.

Ond er i Ross Stephens ddod yn agos gyda chynnig tin-dros-ben deheuig i’r tîm cartref yn fuan wedyn, Bangor oedd y tîm gorau o hyd a bu bron i Sam Hart ddyblu’r fantais o ddeugain llath yn eiliadau olaf yr hanner!

Ail Hanner

Cafodd dau amddiffynnwr canol Prestatyn gyfleoedd i unioni pethau’n gynnar yn yr ail gyfnod ond peniodd Michael Parker yn syth at y golwr a Dave Hayes dros y trawst.

Roedd deg dyn Bangor yn ymdopi’n dda yn erbyn y gwynt ac fe ddyblwyd y fantais toc wedi’r awr pan wyrodd cynnig Chris Jones yn uchel dros ben Scott Williams ac i’r gôl.

Cafodd Les Davies gyfle i ychwanegu trydedd ddau funud yn ddiweddarach ond llwyddodd i Williams i’w atal.

Cicio Hayes braidd yn uchel oedd cyfraniad nesaf Les ac anfonwyd y blaenwr oddi ar y cae ddeuddeg munud o’r diwedd.

Sgoriodd Jordan Davies bron yn syth wedi hynny diolch i bas dda Andy Parkinson, ond methodd y tîm cartref ag ychwanegu’r ail holl bwysig wrth i naw dyn y Dinasyddion ddal eu gafael.

Mae Bangor yn aros ar waelod y tabl er gwaethaf y fuddugoliaeth ond mae’r bwlch rhyngddynt a Phrestatyn bellach i lawr i ddau bwynt.

.
Prestatyn
Tîm:
Williams, Maher (Gibson 82’), Parker, Hayes, J. Lewis, Rh. Lewis (Wilson 70’), Edwards (Stead 74’), Stephens, Parkinson, Davies, Pritchard
Gôl: Davies 80’
Cardiau Melyn: Lewis 63’, Stead 90’
.
Bangor
Tîm:
Cudworth, Walker, Clowes, Miley, Hart, Johnston, R. Edwards (Corey Jones 90’), Allen, Chris Jones (R. Jones 83’), S. Edwards (Petrie 82’), Davies
Goliau: Davies 15’, C. Jones 64’
Cardiau Melyn: Davies 26’, 78’, Allen 59’, Miley 81′, Cudworth 81′
Cardiau Coch: Clowes 26’, Davies 78’
.
Torf: 320