Aaron Ramsey a Gareth Bale yn rhannu jôc ar ôl gêm Cymru a Gwlad Belg (llun: CBDC)
Ar ôl helpu Cymru i sicrhau gêm gyfartal draw ym Mrwsel dydd Sul diwethaf, roedd tipyn mwy o goliau i’w gweld yng ngêm Gareth Bale gyda’i glwb dros y penwythnos – ond efallai nad oedd ei gyfraniad ef mor allweddol y tro hwn.

Er iddo chwarae gêm lawn dros Real Madrid yn erbyn Eibar, fe fethodd allan ar yr hwyl wrth i’w dîm roi crasfa o 4-0 i’r gwrthwynebwyr ac yntau ddim yn sgorio na chreu’r un o’r goliau.

Ni chafodd Aaron Ramsey benwythnos da o gwbl gydag Arsenal yn yr Uwch Gynghrair, wrth iddo gael ei eilyddio ar ôl 77 munud o’r golled i Man United ar ôl perfformiad siomedig arall.

Fe gafodd Joe Ledley gêm well gyda Crystal Palace wrth iddyn nhw herio Lerpwl a Joe Allen. Gyda’r sgôr yn 1-1 cafodd Allen ei eilyddio, a thoc wedi hynny fe rwydodd Ledley gôl i Palace a arweiniodd ei dîm i fuddugoliaeth o 3-1.

Dechreuodd Ben Davies am y tro cyntaf i Spurs wrth iddyn nhw drechu Hull 2-1 gyda gôl hwyr gan Christian Eriksen.

Roedd Ashley Williams a Neil Taylor yn anlwcus i golli 2-1 gydag Abertawe yn erbyn Man City, ar ôl brwydro’n dda yn erbyn y pencampwyr drwy gydol y gêm.

Colli 2-1 oedd hanes James Collins a West Ham yn erbyn Everton, fodd bynnag, gyda Collins yn methu â pheniad yn hwyr yn y gêm.

Cafodd Paul Dummett gêm dda arall i Newcastle a chadw llechen lân wrth iddyn nhw drechu QPR 1-0, ac ar y fainc yn unig oedd James Chester i Hull ac Andy King i Gaerlŷr.

Y Bencampwriaeth

Digon tawel oedd penwythnos Cymry’r Bencampwriaeth, ond roedd gan Dave Cotterill reswm i’w ddathlu wrth i Birmingham godi o safleoedd y cwymp gyda buddugoliaeth o 1-0 dros Rotherham a Craig Morgan.

Fe arhosodd Bolton y tu allan i safleoedd y cwymp hefyd gyda gêm gyfartal 1-1 yn Blackburn, a Craig Davies yn chwarae gêm lawn.

Dim ond dau Gymro oedd ar y cae i Wolves wrth iddyn nhw golli 3-0 gartref yn erbyn Nottingham Forest, gyda Lee Evans yn gwylio o’r fainc wrth i Sam Ricketts a Dave Edwards gael eu trechu ar y cae.

Colli oedd hanes Cymry Reading nos Wener hefyd gyda Chris Gunter, Hal Robson-Kanu a Jake Taylor i gyd yn chwarae rhan wrth i’w tîm nhw gael eu curo 2-1 gan Gaerdydd.

Yng ngweddill y gynghrair fe chwaraeodd Morgan Fox, George Williams, George Lynch a Jermaine Easter.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe chwaraeodd Adam Matthews ac Ash Taylor gemau llawn, ac yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Lewin Nyatanga, Gwion Edwards, Joe Walsh, James Wilson a Jake Cassidy.

Seren yr wythnos – Joe Ledley. Sgoriwr ail gôl Palace i’w harwain i fuddugoliaeth dros Lerpwl.

Siom yr wythnos – Aaron Ramsey. Siomedig eto, a ddim yn agos y safonau tymor diwethaf ar hyn o bryd.