Y Drenewydd 2-1 Dinas Bangor

Mae Bangor yn dal i ddisgwyl i droi y gornel y tymor yma wedi colled arall oddi-cartref yn erbyn Y Drenewydd heddiw.

Sgoriodd y tîm cartref ddwy gôl yn yr hanner cyntaf diolch i Luke Boundford wedi pedair munud, a Jason Oswell wedi 37.

Er i Bangor gipio gôl yn fuan yn yr ail hanner diolch i Ryan Edwards, prin oedd y cyfleoedd i’r naill dîm na’r llall yn yr ail hanner.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Bangor yn aros ar waelod y tabl tra bod Y Drenewydd yn dringo i’r seithfed safle.