Abertawe 2–1 Arsenal
Tarodd Abertawe nôl wedi bod ar ei hôl hi i drechu Arsenal ar y Liberty yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sul.
Rhoddodd Alexis Sánchez yr ymwelwyr ar y blaen toc wedi’r awr ond tarodd yr Elyrch yn ôl i ennill y gêm diolch i ddwy gôl mewn tri munud gan Gylfi Sigurdsson a Bafétimbi Gomis.
Roedd hi’n gêm wael am yr hanner awr cyntaf cyn i bethau wella tipyn yn chwarter awr olaf yr hanner cyntaf.
Creodd Wilfred Bony gyfle da i Marvin Emnes ond ergydiodd yn syth at Wojciech Szczesny yn y gôl i Arsenal. Yn y pen arall, fe gafodd Danny Welbeck gyfle da yn dilyn symudiad slic ond llwyddodd Lukas Fabianski i’w atal wrth ei bostyn agosaf.
Cafodd Aaron Ramsey a Per Mertesacker gyfleoedd ym munudau olaf yr hanner hefyd ond di sgôr oedd hi ar yr egwyl.
Dechreuodd Arsenal yr ail hanner yn gryf a doedd fawr syndod pan roddodd Sánchez yr ymwelwyr ar y blaen yn dilyn gwaith da Alex Oxlade-Chamberlain a Welbeck mewn gwrthymosodiad chwim.
Cafwyd ymateb da iawn gan yr Elyrch wedi hynny ac roedd Jefferson Montero yn ddraenen gyson yn ystlys Arsenal ar yr asgell chwith. Creodd y gŵr o Ecwador gyfle da i Bony ond llusgodd yntau ei ergyd heibio’r postyn.
Yna, gyda chwarter awr i fynd, fe unionodd Sigurdsson y sgôr trwy grymanu cic rydd wych i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.
Daeth Gomis i’r cae fel eilydd wedi hynny ac o fewn dau funud roedd wedi penio’r Elyrch ar y blaen o groesiad seren y gêm, Montero.
Felly yr arhosodd hi tan ddiwedd y gêm wrth i Abertawe godi dros ben Arsenal i’r pumed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Bartley, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Carroll (Britton 87′), Emnes (Barrow 67′), Sigurdsson, Montero, Bony (Gomis 76′)
Goliau: Sigurdsson 75’, Gomis 78’
Cardiau Melyn: Taylor 37’, Ki Sung-Yueng 41’, Williams 50’, Carroll 63’, Barrow 90’
.
Arsenal
Tîm: Szczesny, Chambers (Sanogo 90′), Mertesacker, Monreal, Gibbs, Ramsey (Walcott 79′), Flamini (Wilshere 79′), Oxlade-Chamberlain, Sánchez, Cazorla, Welbeck
Gôl: Sánchez 63’
Cardiau Melyn: Ramsey 45’, Mertesacker 55’, Chambers 62’, Gibbs 74’, Sánchez 86’
.
Torf: 20,812