Wrecsam 3–0 Woking

Mae Wrecsam yn yr het ar gyfer ail rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Woking yn y rownd gyntaf ar y Cae Ras brynhawn Sul.

Roedd y fuddugoliaeth fwy neu lai yn ddiogel ar yr egwyl yn dilyn goliau hanner cyntaf Neil Ashton, Wes York ac Andy Bishop.

Hanner cyntaf digon cyfartal a gafwyd ar y cyfan o ran tir a meddiant ond Wrecsam a gafodd y cyfleoedd a’r goliau.

Daeth y gyntaf wedi deunaw munud wedi i Mike Cestor ildio cic o’r smotyn am drosedd ar Bishop yn y cwrt cosbi.

Arbedodd Jake Cole gynnig cyntaf Ashton ond fe lwyddodd chwaraewr Wrecsam i rwydo ar yr ail gynnig.

Goliau digon tebyg oedd y ddwy nesaf wrth i’r ddau flaenwr cartref gyfuno’n dda. Croesodd Bishop i York ar gyfer y gyntaf wedi i Woking ildio’r meddiant o gic rydd eu hunain ar y llinell hanner, a chroesodd York i Bishop ar gyfer y drydedd yn fuan wedyn, 3-0 ar hanner amser.

Woking a gafodd y gorau o’r gêm yn yr ail gyfnod wrth i Wrecsam ymlacio, ond methodd yr ymwelwyr a chreu cyfle da tan dri munud o ddiwedd y naw deg. Daeth hwnnw i John Goddard ond llwyddodd Andy Coughlin i arbed wrth ei bostyn agosaf wrth i’r Dreigiau gadw eu gafael ar y llechen lân.

Mae Wrecsam yn herio’r un gwrthwynebwyr yn y Gyngres nos Fercher.

.
Wrecsam
Tîm:
Coughlin, Pearson, Hudson, Smith, Ashton, Durrell (Keates 85′), Carrington, Clarke, Hunt, York (Jennings 71′), Bishop (Moult 81′)
Goliau: Ashton 19’, York 36’, Bishop 43’
Cerdyn Melyn: Clarke 45’
.
Woking
Tîm:
Cole, Clarke (Newton 54′), McNerney, Cestor, Arthur, Lewis, Payne, Jones (Goddard 63′), Betsy, Rendell (Taylor 68′), Marriott
Cardiau Melyn: McNerney 18’, Rendell 18’, Payne 23’
.
Torf: 2,253