Luton 4–2 Casnewydd
Mae Casnewydd allan o’r Cwpan FA ar ôl colli yn erbyn Luton yn y rownd gyntaf ar Ffordd Kenilworth brynhawn Sadwrn.
Bu rhaid aros tan bum munud cyn yr egwyl am y gôl agoriadol pan gyfunodd y ddau Luke i roi Luton ar y blaen, Wilkinson yn creu a Guttridge yn rhwydo.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Casnewydd yn gyfartal yn gynnar yn yr ail gyfnod pan rwydodd Yan Klukowski.
Honno oedd y gyntaf o dair gôl mewn cyfnod o chwarter awr wrth i Paul Benson roi Luton yn ôl ar y blaen cyn i Aaron O’Connor unioni am yr eildro i’r Alltudion.
Y tîm cartref oedd piau’r chwarter olaf wedyn wrth i Ricky Miller adfer mantais Luton cyn i Jake Howells ddiogelu eu lle yn yr ail rownd.
Bydd yn rhaid i Gasnewydd ar y llaw arall ganolbwyntio ar y gynghrair o hyn ymlaen.
Mae Wrecsam yn chwarae eu gêm rownd gyntaf hwythau yn erbyn Woking ar y Cae Ras brynhawn Sul.
.
Luton
Tîm: Tyler, Harriman, McNulty, Wilkinson, Lacey, Guttridge, Smith, Doyle, Howells, Cullen (Miller 71′), Benson
Goliau: Guttridge 40′ Benson 58′ Miller 77′ Howells 86′
Cerdyn Melyn: Harriman 65’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Hughes, Jones, Yakubu, Klukowski, Flynn, Minshull (Jackson 67′), Byrne (Loveridge 81′), Obeng, Zebroski, O’Connor
Goliau: Klukowski 51’, O’Connor 64’
Cardiau Melyn: Minshull 42’, Zebroski 60’
.
Torf: 3,656