Birmingham 0–0 Caerdydd
Mae Caerdydd yn dychwelyd o St Andrew’s nos Sadwrn gyda phwynt yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Birmingham yn y Bencampwriaeth.
Roedd hon yn gêm rhwng dau dîm sy’n tangyflawni yn y Bencampwriaeth y tymor hwn ac roedd hynny’n amlwg o’r diffyg cyfleoedd yn y ddau ben.
Daeth un o gyfleoedd gorau’r gêm i Birmingham ac i Clayton Donaldson yn y munudau olaf un ond methodd y blaenwr a tharo’r targed.
Gorffennodd y tîm cartref y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Wes Thomas ond digwyddodd hynny’n rhy hwyr i gael unrhyw effaith ar y gêm, wrth i’r ddau dîm orfod bodloni ar bwynt yn y diwedd.
Er na fydd Caerdydd yn hapus â phwynt yn unig yn erbyn tîm sydd mor isel yn nhabl y Bencampwriaeth, mae’r pwynt hwnnw’n ddigon i’w cadw yn y deuddegfed safle.
.
Birmingham
Tîm: Randolph, Caddis, Morrison, Robinson, Grounds, Gleeson, Davis, Cotterill, Shinnie (Thomas 53′ ), Arthur (Gray 53′), Donaldson
Cerdyn Melyn: Cotterill 78’
Cerdyn Coch: Thomas 90’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Connolly, Turner, Morrison (Gabbidon 94′), Brayford, Noone (Fabio 88′), Gunnarsson, Whittingham, Pilkington, Le Fondre, Macheda (Maynard 65′)
Cardiau Melyn: Turner 38’, Macheda 57’, Connolly 84’, Morrison 90’
.
Torf: 15,950