Federico Fernandez
Mae capten Abertawe wedi canmol ei bartner yng nghanol yr amddiffyn, Federico Fernandez, am ei berfformiad ddoe wrth rwystro Everton rhag sgorio.
Ar un adeg, roedd hi’n ymddangos na fyddai Fernandez yn chwarae ar ôl cael carden goch yn erbyn Lerpwl yng nghwpan Capital One yn ystod yr wythnos.
Ond fe gafodd y garden ei diddymu ac roedd angen mawr am Fernandez wrth i’r Elyrch orfod chwarae 20 munud eto gyda dim ond 10 dyn ar ôl dwy garden felen i Jonjo Shelvey.
“Dyma’i gêm orau eto i’r clwb,” meddai Ashley Williams. “Roedd yn darllen popeth yn erbyn Everton; roedd yn graig o gadernid ac yn wych yn yr awyr hefyd.”
Dim cic o’r smotyn
Doedd gan reolwr Abertawe, Garry Monk, ddim cwyn am y penderfyniad i anfon Shelvey o’r maes ar ôl 72 munud o’r gêm gyfartal 0-0 ond roedd y feirniadol eto o’r dyfarnwr.
Ym marn sylwebwyr, fe ddylai hwnnw fod wedi rhoi cic o’r smotyn i Abertawe ar ôl i ergyd gan Shelvey gael ei llawio yn y bocs.
Yr wythnos ddiwetha’ fe gafodd Garry Monk rybudd, ond dim cosb, ar ôl lladd ar ddyfarnwyr am benderfyniadau gwael, gan gynnwys anfod Fernandez o’r maes.