Ulster 23–6 Dreigiau Casnewydd Gwent
Colli fu hanes y Dreigiau yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn wrth ymweld â Stadiwm Kingspan, Ravenhill, i herio Ulster.
Roedd yr amodau’n anodd a charfan y Dreigiau wedi cael ei tharo gan lu o anafiadau ac fe brofodd gwŷr Ulster rhy gryf iddynt yn y diwedd.
Er gwaethaf goruchafiaeth amlwg Ulster, fe wnaeth y Dreigiau’n dda iawn i gadw’r gêm yn ddi sgôr am 25 munud.
Yna, cafodd y gwaith da i gyd ei ddad-wneud mewn cyfnod o bedwar munud wrth i’r Gwyddelod fynd un ar ddeg pwynt ar y blaen gyda dwy gic gosb gyflym Paddy Jackson a chais Stuart Olding, y cefnwr yn rhwygo trwy’r taclo gwan yn rhy rhwydd o lawer.
Rhoddodd cic gosb hwyr Angus O’Brien lygedyn o obaith i’r Dreigiau ar hanner amser ond roedd gan y Cymry fynydd i’w ddringo yn yr ail ddeugain.
Dechreuodd yr ail hanner gydag ail gais i Ulster ac ail i Olding wedi chwe munud. Cafwyd dwylo da cyn i’r cefnwr blymio drosodd yn y gornel. Cadarnhaodd y dyfarnwr fideo fod y cais yn un dilys, 16-3 y sgôr gyda dros hanner awr i fynd.
Fe amddiffynnodd y Dreigiau’n ddewr wedi hynny ac roeddynt yn ôl o fewn deg pwynt ar yr awr yn dilyn ail gic gosb o droed O’Brien.
Bu rhaid iddynt amddiffyn eu llinell gais eu hunain am ran helaeth o’r chwarter olaf hefyd a siom oedd gweld yr eilydd, Declan Fitzpatrick, yn croesi am drydydd cais i Ulster yn symudiad olaf y gêm.
Mae’r canlyniad yn codi Ulster i’r trydydd safle yn nhabl y Pro12, mae’r Dreigiau’n aros yn ddegfed.
.
Ulster
Ceisiau: Stuart Olding 30’, 46’, Declan Fitzpatrick 80’
Trosiad: Ian Humphreys 80’
Ciciau Cosb: Paddy Jackson 27’, 29’
.
Dreigiau
Ciciau Cosb: Angus O’Brien 36’, 60’