Federico Fernandez (Llun y clwb)
Mae amddiffynnwr canol Abertawe Federico Fernandez wedi ennill ei apêl yn erbyn y cerdyn coch a gafodd yn y gêm Cwpan Capital One yn erbyn Lerpwl yn Anfield yr wythnos hon.

Cafodd Fernandez ei anfon o’r cae am dacl flêr ar Phillipe Coutinho, ac fe gafodd penderfyniad y dyfarnwr Keith Stroud ei feirniadu ar wefannau cymdeithasol a gan reolwr yr Elyrch, Garry Monk.

Yn awr, mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi derbyn apêl y chwaraewr, sy’n golygu y bydd ar gael i wynebu Everton ddydd Sadwrn.

Fel arall, fe fyddai’r Archentwr wedi cael ei wahardd am dair gêm.

Trobwynt

Y digwyddiad oedd un o drobwyntiau’r gêm yn Anfield ac fe allai’r Elyrch fod wedi ennill neu gael gêm gyfartal pe bai Fernandez wedi aros ar y cae.

Ar y pryd, fe ddywedodd y sylwebydd pêl-droed, Iwan Roberts, nad oedd y dacl yn haeddu cerdyn coch ac mai wedi llithro yr oedd ef a Coutinho wrth fynd i mewn i’r dacl.

Collodd yr Elyrch yr ornest o 2-1.

Pe na bai’r apêl wedi bod yn llwyddiannus, byddai’r Archentwr wedi’i wahardd am dair gêm.

Ond mae penderfyniad Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr yn golygu y bydd e ar gael i herio Everton ddydd Sadwrn.