Garry Monk
Bydd rheolwr Abertawe Garry Monk yn cyfarfod â Chymdeithas y Dyfarnwyr ddydd Gwener i drafod nifer o benderfyniadau dadleuol diweddar.

Fe fu Monk yn feirniadol o benderfyniad Michael Oliver i roi cic o’r smotyn i Stoke ar Hydref 19 wedi iddo benderfynu bod yr amddiffynnwr Angel Rangel wedi gwthio ymosodwr Stoke Victor Moses i’r llawr.

Gwnaeth fideo o’r digwyddiad ddangos bod Moses wedi cwympo i’r llawr heb gael ei gyffwrdd o gwbl gan Rangel, ac fe ddywedodd Monk fod Moses “wedi twyllo”.

Collodd Abertawe’r ornest honno o 2-1.

Gofynnodd y Gymdeithas Bêl-droed i Monk egluro’i sylwadau.

Aeth penderfyniad dadleuol arall yn erbyn yr Elyrch yn Anfield neithiwr, wrth i Keith Stroud anfon yr amddiffynnwr Federico Fernandez o’r cae am dacl flêr ar Phillipe Coutinho.

Collodd Abertawe o 2-1 yn y gêm Cwpan Capital One.

Cafodd y dyfarnwr ei feirniadu ar Twitter gan un o gyfarwyddwyr yr Elyrch, Leigh Dineen, a ddywedodd fod “dyfarnwyr £strecher” yn rheoli’r gêm.

leigh dineen @leighdineen · 14h14 hours ago

What an absolute joke this is becoming. Multi million pound game. £stretcher refs. We need to learn from other sports b4 litigation happens

Roedd nifer o gefnogwyr Lerpwl hefyd yn cytuno â sylwadau Dineen, gyda rhai o gefnogwyr Abertawe’n awgrymu bod gan ddyfarnwyr agenda yn erbyn Abertawe.

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Monk nad oedd y dacl yn haeddu cerdyn coch a’i fod yn gobeithio y caiff y gosb ei lleihau i gerdyn melyn.

Yn y cyfamser, mae’r Elyrch wedi cadarnhau y byddan nhw’n apelio yn erbyn cerdyn coch Fernandez, ac mae disgwyl iddyn nhw glywed y canlyniad cyn teithio i Everton ddydd Sadwrn.