Robert Croft
Bydd dau o gyn-fowlwyr Morgannwg yn hyfforddi bowlwyr ifanc Lloegr ar deithiau’r Garfan Berfformio yn ystod y gaeaf.

Bydd y troellwyr sydd wedi derbyn ysgoloriaeth yn cael eu hyfforddi gan is-hyfforddwr presennol Morgannwg, Robert Croft yn Sri Lanca.

Ottis Gibson, cyn-hyfforddwr India’r Gorllewin a chyn-fowliwr cyflym Morgannwg, fydd yn arwain y bowlwyr cyflym ar daith i Dde Affrica.